Mae gan Gyngor Cymuned Llanarthne sedd wag ar gyfer Cynghorydd fydd yn cael ei llenwi trwy broses cyfethol. Mae gan Gynghorwyr cyfetholedig yr un hawliau a chyfrifoldebau â’r Cynghorwyr hynny sy’n ennill eu lle trwy etholiad. Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd misol y Cyngor ac efallai y gofynnir iddynt wasanaethu ar Is-bwyllgor sydd fel arfer yn cyfarfod yn chwarterol. Mae’r rôl yn amrywiol ac mae’n galluogi pobl leol i ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i gyfrannu at a gwella’r gwaith a wneir gan y Cyngor er lles y gymuned.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth